Job 21

Job yn ymateb: Mae pobl ddrwg yn llwyddo!

1Dyma Job yn ateb:

2“Gwrandwch yn ofalus ar beth dw i'n ddweud;
rhowch cyn lleied â hynny o gysur i mi!
3Rhowch gyfle i mi,
ac ar ôl i mi gael dweud fy mhwt cewch wneud sbort.
4Ai cwyn yn erbyn person meidrol sydd gen i?
Felly pam ga i ddim bod ychydig yn flin?
5Edrychwch arna i. Bydd hyn yn eich dychryn chi.
Rhowch eich llaw dros eich ceg.
6Dw i'n arswydo wrth feddwl am y peth! –
mae fy nghorff yn crynu trwyddo.
7Pam mae'r rhai drwg yn cael dal i fyw
a heneiddio a mynd yn fwy a mwy pwerus?
8Mae eu plant yn cael bywyd da gyda nhw,
ac maen nhw'n byw i weld plant eu plant.
9Mae eu cartrefi'n saff, does dim rhaid ofni,
a dŷn nhw ddim yn profi gwialen Duw'n eu cosbi.
10Mae eu teirw'n bridio heb fethu,
a'u gwartheg yn cael lloi heb golli'r un.
11Mae eu plant bach yn cael rhedeg yn rhydd,
ac yn prancio o gwmpas yn hapus fel ŵyn.
12Yn canu'n llon gyda'r tambwrîn a'r delyn,
a mwynhau gwrando ar alaw'r ffliwt.
13Mae nhw'n cael byw yn braf am flynyddoedd,
ac yna marw'n dawel a mynd i'r bedd mewn heddwch.
14Eu hagwedd at Dduw ydy, ‘Gad lonydd i ni,
does gynnon ni ddim eisiau gwybod am dy ffyrdd di!
15Pwy ydy'r Un sy'n rheoli popeth? Pam ddylen ni ei wasanaethu?
Beth ydy'r pwynt i ni weddïo arno?’
16Ond dŷn nhw ddim yn llwyddo yn eu nerth eu hunain.
Dydy ffordd y rhai drwg o feddwl yn gwneud dim sens i mi!
17Pa mor aml mae lamp pobl ddrwg yn cael ei diffodd yn annisgwyl?
Pa mor aml mae trychineb yn dod ar eu traws?
Pa mor aml mae Duw'n gwneud iddyn nhw ddiodde am ei fod yn ddig?
18Pa mor aml maen nhw'n cael eu chwythu i ffwrdd fel gwellt,
neu fel us yn cael ei gipio ymaith gan y gwynt?
19Ydy Duw yn cosbi plant yr annuwiol yn eu lle?
Dylai gosbi'r annuwiol eu hunain – iddyn nhw ddysgu eu gwers!
20Gad iddyn nhw brofi dinistr eu hunain,
ac yfed o ddigofaint yr Un sy'n rheoli popeth!
21Dŷn nhw'n poeni dim beth fydd yn digwydd i'w teuluoedd
pan fydd eu dyddiau eu hunain wedi dod i ben!
22All rhywun ddysgu gwers i Dduw?
Onid fe sy'n barnu'r angylion yn y nefoedd uchod?
23Mae un dyn yn marw pan mae'n iach ac yn ffit,
yn braf ei fyd ac yn ofni dim;
24yn edrych yn dda,
a'i esgyrn yn gryfion.
25Mae un arall yn marw yn ddyn chwerw,
heb wybod beth ydy bod yn hapus.
26Ond mae'r ddau fel ei gilydd yn gorwedd yn y pridd
a chynrhon drostyn nhw i gyd.
27O ydw, dw i'n gwybod beth sydd ar eich meddyliau chi,
a'r drwg dych chi'n bwriadu ei wneud i mi.
28Dych chi'n gofyn, ‘Ble mae tŷ'r gŵr bonheddig?
Ble mae cartrefi'r bobl ddrwg wedi mynd?’
29Ydych chi ddim wedi gofyn i'r rhai sy'n teithio?
Allwch chi ddim gwrthod eu tystiolaeth nhw:
30fod pobl ddrwg yn cael eu harbed pan mae trychineb yn dod,
ac yn dianc ar y dydd pan mae Duw'n ddig?
31Does neb yn ceryddu dyn felly am ei ffyrdd;
neb yn talu nôl iddo am beth mae wedi ei wneud.
32Pan mae'n cael ei gario i'r fynwent,
mae rhywrai yn gwylio dros ei fedd.
33Mae gorwedd dan bridd y dyffryn yn felys iddo,
a phawb yn ei ddilyn mewn prosesiwn;
ac aeth tyrfa fawr yno o'i flaen.
34Felly, sut allwch chi fy nghysuro i gyda'ch nonsens?
Dydy'ch atebion chi yn ddim byd ond twyll!”
Copyright information for CYM